Gwrandewch!

Llinell amseryddol

1957
Ganwyd yn Lerpwl i deulu o Sir Fôn.

1962-8
Disgybl yn Blackmoor Park County Primary School, West Derby, L12.

1968-75
Disgybl yn St Margaret’s CofE High School for Boys, Aigburth, L17.

1973
Clywodd Alan Stivell a phenderfynu ei fod eisiau chwarae’r delyn Geltaidd.
Dechreuodd ddysgu canu’r delyn yn Lerpwl gyda Margaret Anwyl o Dywyn, Meirionnydd.

1975
Aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth i ddarllen Astudiaethau Celtaidd.

1977
Clywodd Dafydd a Gwyndaf Roberts yn y grŵp gwerin Cymreig arloesol Ar Lôg, a phenderfynu (fel Cymro) mai’r Delyn Deires ddylai fod ei offeryn.

1979
Graddiodd o GPC Aber yn y Gymraeg, a phrynu ei Delyn Deires gyntaf gan Merlin Madog, Pontycymer. Daeth i nabod Dafydd a Gwyndaf Ar Lôg, a fuodd yn gymorth mawr a pharod i’w roi ar ben ffordd efo’r Deires.

1980
Ymunodd â staff Adran Llawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol, a chael cyfle dros tua saith mlynedd i ymchwilio i faes alawon gwerin.

1981
Cyfarfu ag Edith Evans ‘Telynores Eryri’ (cyfaill Nansi Richards) a dysgu rhai alawon a threfniadau ganddi.

1983
Taith dramor gyntaf i chwarae (fel rhan o ddirprwyaeth Amgueddfa Werin Cymru a’r Bwrdd Croeso) yn Ridderkerk Pinkstermarkt, Yr Iseldiroedd.


Ail daith dramor i chwarae (fel rhan o ddirprwyaeth y Bwrdd Croeso) yn y Minnesota State Symphony Orchestra Charity Ball, Minneapolis, MN, UDA.

1986
Dihangodd o’r Llyfrgell Genedlaethol a throi yn Delynor Teires llawn amser gan ymuno â grŵp gwerin Siwsann George, Mabsant. Dechreuodd deithio Gogledd America a sawl gwlad Ewropeaidd yn achlysurol, a chael profiad o’r sîn werin Saesneg yn Lloegr gyda Mabsant.

1988
Prynodd ei Deires bresennol (‘Gwaun - berpendiclar’ gan John Weston Thomas, Sir Benfro) sydd wedi teithio pobman efo fo oddi ar hynny.


dangos mwy

1989
Gadawodd Mabsant i ddilyn gyrfa solo.

1991
Ymunodd â’r grŵp acwstig gyfoes Cusan Tân, gydag Anne Morgan Jones, Sue Jones-Davies, ac (ym 1995) Howard Evans.
Cyfarfu ag Eldra Jarman, a dechrau dysgu dull a repertoire y Romani Cymreig ganddi.
Cyfarfu â Llio Rhydderch, a dysgu rhai alawon a threfniadau ganddi.

1994
Dechreuodd weithio gyda’r asiantaeth Nancy Carlin Associates o San Francisco, a dechrau teithio yn helaeth ac yn gyson yng Ngogledd America.

1995
Dechreuodd weithio gyda’r asiantaeth Just Shows to Go o Victoria, a gwneud pump taith genedlaethol yn Awstralia rhwng 1995 a 2000.

1996
Sefydlodd Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru gyda cherddorion traddodiadol eraill Huw Roberts, Andy McLauchlin, Llio Rhydderch, Stephen Rees, a Wyn Thomas Adran Gerdd, CPGogC Bangor.

1997
Dechreuodd weithio gydag asiantaeth Christian Daether o Thüringen, a dechrau teithio yn yr Almaen yn gyson.

1997
Dechreuodd weithio gydag asiantaeth Dell’Amore a dechrau perfformio yn yr Eidal yn achlysurol.

1998
Cyfarfu ag Ange Hauck, Würzburg am y tro cyntaf, sydd ers 2010 yn gweithredu fel asiant presennol iddo yn yr Almaen.

1999
Ffurfiodd Crasdant y ‘Super-grŵp’ gwerin Cymreig, gydag Andy McLauchlin, Huw Williams, a Stephen Rees.

2000
Enillodd Wobr Glyndŵr yng Ngŵyl Machynlleth am 'gyfraniad arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru'.
Ffurfiodd Rhes Ganol, y côr Telynau Teires cyntaf ers Côr Telynau Llanofer ar ddechrau’r 20ed ganrif, gyda Rhiain Bebb, Huw Roberts, Wynn a Steffan Thomas, ac Eleri Turner.

2002
Enillodd BAFTA (Cymru) am ei gerddoriaeth wreiddiol i'r ffilm S4C Eldra.

2004
Fe'i hanrhydeddwyd efo'r Wisg Wen yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a derbyn yr enw barddol ‘Telynor Cymru II’.



2006
Fe’i gwahoddwyd i fod yn gyd-Gyfarwyddwr Cerdd Y Glerorfa (Cerddorfa Werin Cymru).

2007
Dathlodd ugain mlynedd o deithio’r byd yn broffesiynol efo’r Delyn Deires.

2008-
Yn dal i gredu!




Administration